Ymateb gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

I

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Am fwy o wybodaeth am yr ymateb hwn, cysylltwch â:

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Adeiladau Cambrian

Sgwâr Mount Stuart

Caerdydd
CF10 5FL

Am y Comisiynydd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau. Mae’n darparu help a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn drwy ei thîm gwaith achosion ac mae’n gweithio i rymuso pobl hŷn i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac y gweithredir yn ei gylch. Mae rôl y Comisiynydd yn seiliedig ar gyfres o bwerau cyfreithiol unigryw i’w chefnogi gydag adolygu gwaith cyrff cyhoeddus a’u dal yn atebol pan fo angen.

Mae’r Comisiynydd yn gweithredu i roi terfyn ar wahaniaethu a rhagfarn ar sail oedran, i atal cam-drin pobl hŷn ac i alluogi i bawb heneiddio’n dda.

Mae’r Comisiynydd eisiau i Gymru fod y lle gorau yn y byd i bobl heneiddio ynddo.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

  • Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.
  • Yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.
  • Yn annog arfer gorau gyda thriniaeth pobl hŷn yng Nghymru.
  • Yn adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar ddiddordebau pobl hŷn yng Nghymru.

 


Cyflwyniad

 

Rwyf yn croesawu penderfyniad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i gynnal ymchwiliad i ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai i oedolion, a fydd yn edrych pa mor effeithiol yw carchardai yng Nghymru o ran diwallu anghenion iechyd a chymdeithasol cymhleth poblogaeth gynyddol o bobl hŷn mewn carchardai.

 

Mae’r twf mewn carcharorion hŷn, ynghyd ag iechyd mwy bregus carcharorion yn gyffredinol, yn golygu y bydd angen cynyddol i ofalu am garcharorion hŷn ag anghenion iechyd a gofal cymhleth – a all gynnwys nam gwybyddol a gofal diwedd oes. Hefyd, yng Nghymru mae perthynas unigryw rhwng natur ddatganoledig darpariaeth iechyd a gofal a system gyfiawnder sydd heb ei datganoli. Mae angen yn awr am gynllunio a chyllid penodol, yn enwedig yn achos anghenion pobl hŷn mewn carchardai, gyda dull cydgysylltiedig o weithio rhwng asiantaethau iechyd, gofal a charchardai.

 

Rwyf yn sylweddoli bod mater darpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn yr ystâd carchardai wedi bod yn destun ymchwiliadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan Bwyllgorau Seneddol ac adroddiadau thematig arolygiaethau yng Nghymru a Lloegr, a’r Alban[1]. Daw cyfran sylweddol o’r dystiolaeth yn yr ymateb hwn o’r ymchwiliadau hynny, ynghyd â gwybodaeth sy’n benodol i’r cyd-destun Cymreig – yn ogystal â fy ymweliad diweddar â HMP Brynbuga. 

 

Crynodeb

 

·         Hawliau: Mae gan garcharorion hŷn hawl i gael yr un ddarpariaeth iechyd a gofal ag yn y gymuned.

 

·         Cyllid: Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 wedi datgan beth yw’r cyfrifoldebau ar gyfer gofal cymdeithasol mewn carchardai. Fodd bynnag, rhaid i’r momentwm yn dilyn ei gweithredu gael ei gynnal, a rhaid i’r cyllid ganolbwyntio ar, a sicrhau bod digon ohono ar gael ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny sydd â charcharorion o fewn eu ffiniau.

 

·         Cynllunio: Wrth i boblogaeth carchardai heneiddio, mae angen cynllunio’n fwy effeithiol i ddiwallu anghenion iechyd a gofal carcharorion hŷn, gan gynnwys rhai sy’n byw â dementia.

 

·         Staff a Hyfforddiant: Rhaid i’r holl staff perthnasol yn y gwasanaeth carchardai ac sy’n darparu iechyd a gofal i garcharorion gael hyfforddiant priodol i helpu carcharorion hŷn sydd ag anghenion cymhleth. Yn benodol, dylid rhoi pwyslais penodol ar recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol / cymorth sy’n gweithio â neu mewn carchardai.

 

·         Yr amgylchedd ffisegol: Mae’r amgylchedd ffisegol, yn enwedig mewn carchardai Fictoraidd, yn ei gwneud yn anodd i wneud addasiadau ac i wella hygyrchedd i garcharorion hŷn ac anabl.

 

·         Rhyddhau: Oherwydd anghenion iechyd a gofal posibl carcharorion hŷn – y tebygrwydd y bydd ganddynt lai o gysylltiadau teuluol a chymunedol a natur llawer o gollfarnau – mae’n debygol y bydd angen rhagor o amser ac adnoddau i drefnu ar gyfer cynllunio rhyddhau carcharorion hŷn.

 

 

Poblogaeth, oedran ac iechyd mewn carchardai

 

Carcharorion hŷn yw’r grŵp demograffig sy’n tyfu gyflymaf yng ngharchardai Cymru a Lloegr, gyda nifer y carcharorion 50 oed neu hŷn wedi cynyddu 150% yng Nghymru a Lloegr ers 2002[2]. Ym mis Medi 2011, roedd 10.4% o boblogaeth carchardai Cymru a Lloegr yn 50 oed neu hŷn. Erbyn Medi 2018, roedd y nifer hwn wedi codi i 22.5% o’r boblogaeth[3]. Yng Nghymru, roedd 17.2% o garcharorion yn 50 oed neu hŷn (Medi 2018). Yn achos HMP Brynbuga, roedd 1 o bob 5 carcharor yn 60 oed neu hŷn ac roedd 40% dros 50 oed (Mehefin 2018)[4].

 

Mae’n werth nodi mai dynion yn bennaf yw’r carcharorion hŷn yng Nghymru a Lloegr[5], ac nid oes carchardai i fenywod yng Nghymru. Er nad ydynt wedi’u cynnwys yn yr ymateb hwn, efallai yr hoffai’r Pwyllgor ystyried a oes unrhyw heriau sy’n gysylltiedig â chynllunio i ryddhau a pharhau â darpariaeth iechyd a gofal i garcharorion benywaidd hŷn sy’n cael eu rhyddhau i Gymru o garchardai yn Lloegr.

 

Yn gyffredinol mae’r cynnydd mewn carcharorion hŷn yn cael ei briodoli i arferion dedfrydu llymach, datblygiadau technegol mewn datrys troseddau, a nifer cynyddol y bobl hŷn sydd wedi cyrraedd oedran sy’n cael ei ddiffinio fel hŷn yn y carchar[6] a chollfarnu troseddau hanesyddol.[7]

 

Canfu’r Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth fod disgwyliad oes cyfartalog carcharor yng Nghymru a Lloegr yn 56 oed[8] – sy’n llawer is na disgwyliad oes cyfartalog y boblogaeth gyffredinol yng Nghymru (dynion - 78, menywod – 82).[9]

 

Mae iechyd carcharorion yn waeth nag iechyd y boblogaeth yn gyffredinol: erbyn yr adeg y bydd carcharor yn 50 oed bydd eu corff yn gweithredu ar lefel rhywun sydd 10 mlynedd yn hŷn. Gall mynychder cam-drin alcohol a sylweddau, ysmygu, feirysau a gludir yn y gwaed a chlefydau anhrosglwyddadwy fod 15 gwaith yn uwch nag yn y boblogaeth gyffredinol[10], ac mae gan hyd at 90% o garcharorion dros 50 oed o leiaf un cyflwr iechyd cymedrol neu ddifrifol, gyda dros eu hanner â thri neu fwy.[11] Amcangyfrifir hefyd fod dros hanner y carcharorion gwrywaidd hŷn yng Nghymru a Lloegr yn dioddef iselder (31% ysgafn a 23% difrifol)[12]. Y gwahaniaethau hyn mewn iechyd yw’r rheswm pam fod y diffiniad o oedran hŷn mewn carchar yn 50 oed[13], sy’n is na’r 60 oed a geir yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.

 

 

Darpariaeth iechyd

 

Mae dedfryd o garchar yn golygu amddifadu rhywun o’i ryddid; nid ddylai fod yn ddedfryd o iechyd gwael neu wasanaethau iechyd a gofal gwael. Mae holl safonau perthnasol y GIG yng Nghymru’n gymwys i wasanaethau gofal iechyd i garcharorion, gydag eithriadau’n unig lle mae cyfyngiadau’r amgylchedd gwarchodol yn drech na dim arall[14].

 

Cafodd y farn hon ei mynegi’n gadarn mewn tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin, ac roedd yn cynnwys trafodaethau’n ymwneud â’r syniad bod hawl carcharorion i iechyd yn cael ei ymgorffori mewn cyfraith ryngwladol[15]:

 

“… a right to the enjoyment of a variety of facilities, goods, services and conditions necessary for the realisation of the highest attainable standard of health.”

Erthygl 12 o’r Cyfamod Rhyngwladol ar Hawliau Economaidd, Cymdeithasol a Diwylliannol

 

Mae’r hawl i iechyd yn ategu’r syniad o gydraddoldeb, lle dylai mynediad carcharorion at ac ansawdd gwasanaethau fod yn gydradd â’r ddarpariaeth i’r cyhoedd yn gyffredinol. Fodd bynnag, er bod yr egwyddor hon wedi cael ei chydnabod ers amser gan y gwasanaethau carchardai ac iechyd[16], nid oes adnodd ar hyn o bryd sy’n disgrifio sut y dylid diffinio, mesur a chymharu cydraddoldeb ag iechyd a gofal yn y gymuned[17].

 

Mae felly’n gadarnhaol i nodi bod ymateb Llywodraeth y DU i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin yn Ionawr 2019 wedi datgan y bydd Bwrdd Iechyd Cenedlaethol y Carchardai yn datblygu cyd-ddiffiniad o gydraddoldeb gofal[18].

 

Er bod Arolygiaeth Carchardai EM ar gyfer Cymru a Lloegr wedi canfod fod y rhan fwyaf o garchardai’n darparu gofal iechyd da, mynegwyd pryderon droeon am rai gwasanaethau, gan gynnwys:

 

·         lefelau isel staff iechyd 

·         amseroedd aros rhy hir ar gyfer rhai gwasanaethau; a

·         rheolaeth cyflyrau gydol oes yn annigonol.[19]

 

Ymddengys fod y ddarpariaeth bresennol o ran staffio a’r ystâd ffisegol yn annigonol i ymateb i anghenion iechyd penodol carcharorion hŷn. Er enghraifft, clywodd Ymchwiliad Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin, Prison Population 2022: Planning for the Future, gan dystion fod lefelau staffio’n annigonol ar gyfer nifer cynyddol o apwyntiadau ysbyty a gwylio gwelyau, ac nad oedd digon o le mewn unedau gofal lliniarol ac unedau pwrpasol ar gyfer carcharorion hŷn ar gyfer maint y boblogaeth hŷn.[20]

 

Wrth i boblogaeth carchardai heneiddio, bydd angen i garchardai gynllunio ar gyfer anghenion gofal a chymorth carcharorion a all fod yn byw â cholli synhwyrau, nam gwybyddol neu ddiagnosis o ddementia. Hefyd, mae’r Gymdeithas Alzheimer wedi mynegi pryderon am lefelau diagnosis o ddementia ymhlith carcharorion ac am ymwybyddiaeth o’r cyflwr ymhlith swyddogion carchardai.[21]

 

Mae cyfyngiadau ffisegol yr ystâd carchardai’n golygu bod y cyfleusterau ar gyfer carcharorion hŷn neu rai â symudedd cyfyngedig, gyda chawodydd mewn celloedd, rhodfeydd a grisiau[22] yn anhygyrch iddynt gyda chyfleusterau cymunedol (fel llyfrgelloedd ar y lloriau uwch[23]. Mae’r cyfyngiadau ffisegol hyn yn arbennig o amlwg mewn carchardai Fictoraidd fel HMP Brynbuga. Rwyf wedi gweld arferion da o fewn y cyfyngiadau hyn, a chydweithio effeithiol rhwng iechyd, gofal cymdeithasol a’r carchar. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau o ganlyniad i restru adeiladau a / neu gadwraeth yn gallu atal neu gyfyngu ar addasiadau i’r amgylchedd ffisegol a fyddai’n gwella hygyrchedd a diogelwch yr amgylchedd ffisegol.

 

Canfu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin nad oes mewn rhai achosion fawr ddim cymorth ar gael i helpu i gadw carcharorion hŷn yn fywiog a chynhyrchiol os nad ydynt yn gallu bod yn rhan o gyfundrefn arferol y carchar.[24] Gallai hyn gael effaith negyddol nid yn unig ar allu carcharorion hŷn i gadw’n gorfforol ffit, ond hefyd ar eu gallu i gadw’u hiechyd meddwl drwy gadw mewn cysylltiad â chymuned ehangach y carchar.

 

 

Darpariaeth Gofal Cymdeithasol

 

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (Deddf SSWB), mae ymrwymiad cyfreithiol ar awdurdodau lleol i asesu’r angen am, ac i ddarparu gofal cymdeithasol i bobl sydd ag anghenion sy’n eu gwneud yn gymwys. Mae’r ymrwymiad hwn yn cynnwys rhai mewn carchardai ac mae gan garcharorion hawl i gael darpariaeth gofal sy’n gydradd â’r hyn a ddarperir i rywun yn y gymuned. Cyn Deddf SSWB, nid oedd yn amlwg pwy oedd yn gyfrifol am ddarparu gofal cymdeithasol i garcharorion, a thybir fod y ddarpariaeth mewn carchardai yn aml yn ddiffygiol.[25]

 

Canfu Adroddiad Blynyddol 2017-18 Prif Arolygydd Carchardai EM fod y ddarpariaeth ers gweithredu Deddf SSWB a Deddf Gofal 2014 (yn Lloegr) wedi datblygu’n dda mewn llawer o garchardai, ac yn eithriadol o dda mewn rhai. Tynnwyd sylw at ymarfer da a welwyd yn HMP Brynbuga yn yr adroddiad:

 

“Social care staff saw all new arrivals at Usk during induction. A social care prisoner coordinator also saw new men promptly and implemented an emergency support plan with the prisoner buddy coordinator, which was then reviewed by the social care team. Well-trained and supervised prisoner buddies were allocated to clients, followed a care plan and kept daily records. The social care team reviewed care plans at the monthly buddy meeting.”[26]

 

Mae modd mabwysiadu ymarfer arloesol, a’r defnydd o dechnoleg glyfar i ategu’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol a ddefnyddir yn y gymuned mewn carchardai. Er enghraifft, mae carchardai yng Nghymru a Lloegr, fel HMP Brynbuga (Sir Fynwy)[27] a HMP Wymott (Sir Gaerhirfryn) wedi cyflwyno larymau gwddf teleofal a synwyryddion gwelyau i hysbysu staff os yw carcharor yn syrthio neu wedi eu taro’n wael yn ystod y nos. Cyn cyflwyno teleofal yn HMP Wymott, roedd tîm gofal cymdeithasol i oedolion y cyngor wedi bod yn gweithio mewn parau i eistedd y tu allan i gell carcharor hŷn agored i niwed. Mae telefofal wedi arbed £172,000 i Gyngor Sir Gaerhirfryn mewn blwyddyn yn unig ar gyfer chwe charcharor a chafodd staff rybudd ddyddiau’n unig ar ôl gosod y system fod carcharor yn cael strôc[28].

 

Cafodd rhagor o syniadau sy’n helpu pobl hŷn mewn carchardai eu cyhoeddi yn y gorffennol gan Age UK,[29] gan gynnwys:

 

·         Darparu gwasanaethau dydd mewngymorth fel rhaglen o siaradwyr, gweithgareddau awyr agored a hyfforddiant sgiliau byw,

·         Darparu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth, er enghraifft, wrth wneud cais neu ofyn am gyfarpar (fel cadeiriau olwyn),

·         Hyfforddiant a chymorth i baratoi ar gyfer rhyddhau, er enghraifft helpu carcharorion hŷn i wirfoddoli yn y caffi yn yr ystafell ymwelwyr.

·         Cyngor ar sefydlu fforymau pobl hŷn.

 

Rwyf yn ymwybodol hefyd o gysylltiadau sy’n cael ei gwneud rhwng ‘Men’s Sheds’ lleol a Charchar y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr i edrych ar y posibilrwydd o sefydlu  ‘sied’ yn y carchar, neu feithrin cysylltiadau â ‘sied’ yn y gymuned y gallai carcharorion gysylltu â hwy ar ôl cael eu rhyddhau[30].

 

Er gwaethaf y gwelliannau ers Deddf SSWB a chyflwyno rhai technolegau, canfu Arolygiaeth Carchardai EM a’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn eu hadroddiad thematig ar ofal cymdeithasol mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr fod gofal yn dal yn anghyson mewn carchardai, ac nad yw carchardai ac awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer anghenion gofal cymdeithasol dyfodol poblogaeth gynyddol o garcharorion hŷn. Roedd y canfyddiadau’n cynnwys:

 

·         Mae rhai carcharorion yn cael anhawster ymolchi ac edrych ar ôl eu hunain ac mae eraill yn cwympo yn ystod y nos ac yn methu â chodi.

·         Roedd datblygiadau mewn gofal cymdeithasol yn gysylltiedig ag angen ar y pryd ac nid oeddent yn ymateb i’r rhagolwg o boblogaeth carchardai yn y dyfodol.

·         Mae bylchau o hyd yn y ddarpariaeth cymorth i’r carcharorion hynny sydd angen help â’u gofal personol nad ydynt yn ateb trothwy’r meini prawf ar gyfer gofal cymdeithasol.[31]

 

Mynegwyd pryderon hefyd ynglŷn â’r gallu i recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol sy’n gallu ac yn barod i weithio yn yr ystâd carchardai, a rhaid i’r cyllid sydd ar gael i ddarparu gofal cymdeithasol mewn carchardai ganolbwyntio ar, a bod yn ddigon ar gyfer yr awdurdodau lleol hynny sydd â charcharorion o fewn eu dalgylchoedd.

 

 

Marwolaethau Naturiol

 

Mae carcharorion 60 oed a hŷn yn fwy tebygol o farw mewn caethiwed nag unrhyw grŵp oedran arall. Marwolaethau naturiol yw prif achos marwolaethau mewn carchardai. Roedd rhai dros 50 oed yn cyfrif am 86% o’r holl farwolaethau o achosion naturiol yn 2018, ac roedd y grŵp oedran â’r nifer fwyaf o farwolaethau o achosion naturiol yn 60 oed neu hŷn (64%).[32]

 

Codwyd mater marwolaethau naturiol gan Robert Jones, o Ganolfan Llywodraethiant Cymru yn yr ymchwiliad hwn. Dywedodd:

 

“…With older prisoners - at HMP Usk, between 2013 and 2018, there were 11 natural deaths. Between 1978 and 2012 - a 34 - year period - there were 11 natural deaths. So, there have been as many natural deaths in the last six years at Usk/ Prescoed as there have been for the 34 years previous. Now, that might be because of the way it's been recorded. The population at Usk and Prescoed has gone up as well—it's occasionally one of the top-10 overcrowded prisons in England and Wales—but I think the natural deaths is something that often gets overlooked.” [33]

 

Yn yr un modd, yn eu tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin, gofynnodd INQUEST (yr elusen sy’n darparu arbenigedd ar farwolaethau sy’n gysylltiedig â’r wladwriaeth) a yw unrhyw rai o’r marwolaethau naturiol yn gynamserol mewn gwirionedd ynteu a ellid eu hosgoi – ac a ydynt yn rhannol yn ganlyniad i ddiffygion mewn gofal.[34]

 

Mae gofyniad ar yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth i gynnal ymchwiliad i bob marwolaeth sy’n digwydd mewn carchar (gyda chyfraniad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru).[35] Wrth i boblogaeth carchardai heneiddio, efallai y bydd arolygiaethau a chyrff perthnasol eraill yn dymuno cynnal ymchwil / ymchwiliadau pellach i farwolaethau naturiol mewn carchardai i ganfod y rhesymau sydd wrth wraidd y marwolaethau hyn a pham mae’r ffigurau hyn wedi cynyddu cymaint yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

 

 

Cynllunio ar gyfer Rhyddhau

 

Mae anghenion iechyd a gofal cymdeithasol carcharorion hŷn sydd heb eu diwallu yn arbennig o amlwg ar adeg pontio, fel ar adeg derbyn neu ryddhau o garchar[36].

 

Wrth i’r boblogaeth carchardai heneiddio, mae’n debyg y bydd yn fwy cyffredin i weld carcharorion a fydd angen gofal a chymorth drwy wasanaethau cymdeithasol ar adeg eu rhyddhau, neu eu bod hyd yn oed yn cael eu rhyddhau i gartref gofal.[37]  Hefyd efallai na fydd gan garcharorion hŷn ddim cysylltiadau teuluol na chymunedol neu mi fydd ganddynt berthnasau oedrannus a fydd â’u hanghenion arbennig eu hunain neu a fydd yn gorfod teithio ymhell i ymweld.[38]

 

Mae llawer o garcharorion hŷn yn cael eu rhyddhau ar ôl dedfrydau hir ac ni fyddant yn gyfarwydd â defnyddio cardiau plastig a ffonau clyfar, a gall y prosesau i gael budd-daliadau a phensiynau fod yn gymhleth.[39]

 

Yn ychwanegol at yr heriau hyn, mae mwyafrif (60%) y carcharorion dros 60 oed wedi’u carcharu am droseddau rhyw[40] ac o ganlyniad i natur eu troseddau, efallai y bydd eu cysylltiadau teuluol a chymunedol yn llai fyth a bydd eu hanghenion ailsefydlu’n fwy cymhleth.

 

Mae’r gofynion o dan y Ddeddf SSWB wedi egluro pwy sy’n gyfrifol am ofal cymdeithasol carcharorion, ac mae hefyd wedi cael yr effaith o wella cysylltiadau rhwng yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y carcharor pan fydd mewn caethiwed a’r awdurdod derbyn ar ôl rhyddhau ac ailsefydlu. Er enghraifft, yn HMP Brynbuga mae pecynnau ailsefydlu’n awr yn cael eu rhoi i garcharorion pan fyddant yn cael eu rhyddhau a gellir trefnu pecynnau ail-alluogi i’w helpu i gyfarwyddo ar ôl eu rhyddhau drwy gydweithio clos rhwng y ddau awdurdod lleol[41]. Mae hyn yn golygu y bydd carcharorion hŷn o bosibl yn cael mwy o help i gael gafael ar y gofal a’r cymorth cymdeithasol y mae ganddynt yr hawl i gael ar ôl eu rhyddhau a gallai hynny helpu i leihau aildroseddu.

 

Fodd bynnag, canfu Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin fod achosion lle gall carcharorion gael eu rhyddhau’n ddigartref, heb gymorth gofal cymdeithasol nac wedi’u cofrestru â Meddyg Teulu.[42]

 

Mae gan garcharorion hŷn hawl i gael gofal a help, drwy gydol eu dedfryd ac ar ôl eu rhyddhau. Fodd bynnag, o gofio’r twf mewn carcharorion hŷn a’r anghenion cynyddol gymhleth a all ddod yn sgil hynny, bydd angen i nifer o asiantaethau gydweithio i gynllunio ac i ariannu’r cymorth hwn yn ystod ac ar ôl rhyddhau. Mae hyn yn cynnwys yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am ofal yn ystod y carchariad, a’r awdurdod sy’n derbyn carcharor ar ôl iddo gael ei ryddhau, a’r gwasanaethau carchardai a phrawf.

 

 

Casgliad

 

Mae’r dystiolaeth a gasglwyd ar gyfer yr ymateb hwn yn dangos bod y cynnydd yn oedran y boblogaeth carchar yn ddigon hysbys. Mae’r twf hwn, ynghyd â chyflwr gwaeth iechyd carcharorion ar y cyfan, yn golygu y bydd yr angen i’r gwasanaeth carchardai ofalu am garcharorion ag anghenion iechyd a gofal cymhleth – gan gynnwys nam gwybyddol a gofal diwedd oes posibl – yn cynyddu. Mae’r berthynas unigryw rhwng natur ddatganoledig darpariaeth iechyd a gofal a system gyfiawnder sydd heb ei datganoli yn gyfle i Lywodraeth Cymru, y gwasanaethau carchardai, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol i gydweithio i gynllunio’n briodol sut y byddant yn diwallu’r anghenion hyn ac yn sicrhau bod gan y gwasanaethau angenrheidiol adnoddau digonol.   

 

Os hoffech chi drafod y dystiolaeth hon yn fwy manwl, cysylltwch â fy Swyddog Arweiniol Iechyd a Gofal, xxxx

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 



[1] Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin, Prison Health, 2018; Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin, Prison Population 2022 ; Y Comisiwn Ansawdd Gofal a HMIP, Social Care in Prisons in England and Wales, 2018; Senedd yr Alban, Pwyllgor Iechyd a Chwaraeon, Healthcare in Prisons, 2017; Arolygiaeth Carchardai’r Alban, Who Cares? The Lived Experience of Older Prisoners in Scotland’s Prisons, 2017

[2] Papur Briffio Llyfrgell Tŷ’r Arglwyddi, UK Prison Population Statistics, Gorffennaf 2018

[3] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Tystiolaeth Ysgrifenedig, Darparu Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr Ystâd Carchardai i Oedolion, Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, Mawrth 2019

[4] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Tystiolaeth Ysgrifenedig, Darparu Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr Ystâd Carchardai i Oedolion, Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, Mawrth 2019

[5] Centre for Policy on Ageing, Diversity in Older Age – Older Offenders, 2016

[6] Age UK, Support older people in prison: ideas for practice, 2011

[7] International Longevity Centre UK, Not so Young Offenders: older people and the criminal justice system, 2018

[8] Yr Ombwdsmon Carchardai a Phrofiannaeth (2012) – Learning from PPO investigations: Natural cause deaths in prison custody 2007-2010. Mawrth 2012

[9] Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, National Life Statistics, Wales, Medi 2018

[10] Y Gymdeithas Alzheimer, The Prison Project, 2016

[11] Guardian, How smart tech is giving ageing prisoners a lifeline, 6 Mawrth 2019

[12] Centre for Policy on Ageing, Diversity in Older Age – Older Offenders, 2016

[13] Y Comisiwn Ansawdd Gofal a HMIP, Social Care in Prisons in England and Wales, 2018

[14] GIG Cymru, Governance E-Manual

[15] Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin, Prison Health, 2018 ; Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Equivalence of care in Secure Environments in the UK: Position statement, Gorffennaf 2018

[16] Her Majesty’s Prison Service and NHS Executive, The Future Organisation of Prison Health Care: Report by the Joint Prison Service and National Health Service Executive Working Group, March 1999

[17] Royal College of General Practitioners, Equivalence of care in Secure Environments in the UK: Position statement, July 2018; National Audit Office, Mental health in prisons, HC42 Session 2017–2019 29 June 2017

[18] Ymateb Llywodraeth y DU i Ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Iechyd Carchardai, Ionawr 2019

[19] Adroddiad Blynyddol 2017-18 Prif Arolygydd Carchardai EM

[20] Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin, Prison Population 2022

[21] Y Gymdeithas Alzheimer, The Prison Project, 2016

[22] House of Commons Justice Committee, Prison Population 2022 ; Care Quality Commission & HMIP, Social Care in Prisons in England and Wales, 2018

[23] Older People’s Commissioner for Wales visited HMP Usk on 30.04.2019

[24] Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin, Prison Health, 2018

[25] Y Comisiwn Ansawdd Gofal a HMIP, Social Care in Prisons in England and Wales, 2018

[26] Adroddiad Blynyddol 2017-18 Prif Arolygydd Carchardai EM

[27] Older People’s Commissioner for Wales visited HMP Usk on 30.04.2019

[28] Guardian, How smart tech is giving ageing prisoners a lifeline, 6 March 2019

[29] Age UK, Support older people in prison: ideas for practice, 2011

[30] Mae ‘Men’s Sheds’ yn grwpiau neu fentrau cymdeithasol sydd wedi’u sefydlu mewn cymunedau er budd dynion: https://www.mensshedscymru.co.uk/what-is-a-mens-shed/ 

[31] Y Comisiwn Ansawdd Gofal a HMIP, Social Care in Prisons in England and Wales, 2018

[32] Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, Safety in Custody Statistics, England and Wales:  Deaths in Prison Custody to December 2018, Ionawr 2019

[33] Dr Rob Jones (tystiolaeth lafar),  Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 27 Mawrth 2019

[34] Tystiolaeth Ysgrifenedig gan INQUEST, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Tŷ’r Cyffredin, Prison Health, 2018

[35] Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Adroddiad Blynyddol 2016-2017

[36] Centre for Policy on Ageing, Diversity in Older Age – Older Offenders, 2016

[37] Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ’r Cyffredin, Prison Population 2022

[38] Centre for Policy on Ageing, Diversity in Older Age – Older Offenders, 2016

[39] Age UK, Support older people in prison: ideas for practice, 2011

[40] Centre for Policy on Ageing, Diversity in Older Age – Older Offenders, 2016

[41] Older People’s Commissioner for Wales visited HMP Usk on 30.04.2019

[42] Tŷ’r Cyffredin, Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Prison Health, 2018